Rhif y ddeiseb: P-06-1318

 

Teitl y ddeiseb: Eithrio ffyrdd A a B yng Nghymru o’r cyfyngiad cyflymder cyffredinol arfaethedig o 20 mya.

 

Geiriad y ddeiseb:  

Bydd cyfyngiad cyflymder o 20 mya ar ffyrdd A a B yn dwysáu tagfeydd ac felly’n dwysáu llygredd. Bydd angen i gerbydau ddefnyddio geriau is hefyd i gydymffurfio â’r cyfyngiadau, gan ddwysáu tagfeydd ymhellach. Dylid eithrio ffyrdd A a B.

 

 


1.        Cefndir

Yn 2019 sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried a ddylai 20mya ddod yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y grŵp, gan gynnwys y dylid lleihau'r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chynllun peilot ar draws 8 cymuned,  gosododd Llywodraeth Cymru Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ym mis Mehefin. Cafodd y Gorchymyn drafft ei basio gan y Senedd ym mis Gorffennaf a disgwylir iddo ddod i rym ym mis Medi 2023.

1.1.            Dosbarthiad ffyrdd

Mae ffyrdd yn y DU (ar wahân i draffyrdd) yn cael eu dosbarthu fel a ganlyn:

§  Ffyrdd A – prif ffyrdd gyda'r bwriad o ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn neu rhwng ardaloedd;

§  Ffyrdd B – ffyrdd gyda'r bwriad o gysylltu gwahanol ardaloedd, a bwydo'r traffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai ar y rhwydwaith;

§  Dosbarthedig heb eu rhifo – ffyrdd llai gyda'r bwriad o gysylltu ffyrdd diddosbarth â ffyrdd A a B;

§  Diddosbarth – ffyrdd lleol a fwriedir ar gyfer traffig lleol. Mae 60 y cant o’r ffyrdd yn y DU yn dod o fewn y categori hwn.

Bydd rhai ffyrdd A a B, neu rannau ohonynt, hefyd yn ffyrdd cyfyngedig - sef y rhai mewn ardaloedd preswyl sydd â system o oleuadau stryd heb fod yn fwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd – ac felly mae’r terfyn diofyn 20mya yn berthnasol iddynt.

Mae’r ddeddfwriaeth fydd yn dod i rym ym mis Medi 2023 yn newid y terfyn cyflymder safonol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya. Bydd ond yn berthnasol i ffyrdd cyfyngedig ac ni fydd yn berthnasol i'r rhwydwaith cyfan o ffyrdd A a B.

1.2.          Eithriadau i'r terfyn 20mya

Bydd yn bosibl hefyd i awdurdodau priffyrdd (awdurdodau lleol ar gyfer ffyrdd lleol a Gweinidogion Cymru ar gyfer cefnffyrdd/traffyrdd) ddefnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TROs) i newid y terfyn o’r terfyn diofyn 20mya lle bo’n briodol.

Gelwir y rhain yn eithriadau. Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i awdurdodau priffyrdd ar y broses o bennu eithriadau. Mae hyn yn nodi dau brif gwestiwn a ddylai gael eu hystyried gan awdurdodau priffyrdd wrth benderfynu a ddylid gwneud eithriad:

Cwestiwn A: A oes nifer sylweddol o gerddwyr a beicwyr yn teithio ar hyd neu ar draws y ffordd (neu bosibilrwydd o hynny, pe bai’r cyflymderau yn llai)?

Os ‘nac oes’ yw’r ateb i A, mae’n bosibl y byddai eithriad ar gyfer terfyn cyflymder 30mya yn briodol.

Cwestiwn B: Os ‘oes’ yw’r ateb i A, a yw’r cerddwyr a’r beicwyr yn cymysgu â cherbydau modur?

Os ‘nac ydyn’ yw’r ateb i B, mae’n bosibl y byddai eithriad ar gyfer terfyn cyflymder 30mya yn briodol.

Os ‘ydyn’ yw’r ateb i B, bydd terfyn cyflymder 20mya yn briodol oni bai bod tystiolaeth gref sy’n seiliedig ar ffactorau lleol yn dangos fel arall.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio map rhyngweithiol sy'n dangos lle mae Gorchmynion drafft yn cael eu paratoi i eithrio ffyrdd.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl sy’n edrych yn fanylach ar gyflwyno terfynau 20mya yng Nghymru.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Cadeirydd, dyddiedig 1 Chwefror, awgrymodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai newid y terfyn cyflymder diofyn yn chwarae rhan hanfodol o ran bodloni amcanion Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Mae'r deisebydd yn awgrymu y byddai newid y terfyn cyflymder yn arwain at fwy o dagfeydd a llygredd. Mae llythyr y Dirprwy Weinidog yn rhoi sylw i’r pwyntiau hyn.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ym mis Gorffennaf 2020, trafododd y Senedd gyflwyno terfynau cyflymder rhagosodedig 20mya gyda 45 o 53 Aelod yn pleidleisio o blaid y cynnig.

Fel yr amlinellwyd, gosododd Llywodraeth Cymru Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ym mis Mehefin 2022. Cafodd y Gorchymyn drafft ei basio gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022 a disgwylir iddo ddod i rym ym mis Medi 2023.

Ym mis Ebrill 2022, gwnaethoch ystyried deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i gyflwyno’r terfyn 20mya. Bryd hynny gwnaethoch gytuno i gau’r ddeiseb oherwydd gallu awdurdodau lleol i newid y terfyn ar ffyrdd lle na fyddai 20mya yn briodol.

Hefyd, gwnaethoch ystyried deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg cyhoeddus ar leihau'r terfyn cyflymder diofyn ym mis Hydref 2022. Eto, gwnaethoch gytuno i gau'r ddeiseb.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.